Diolch am ymweld ag un o’n gwarchodfeydd natur. Byddem yn gwerthfawrogi eich adborth a fydd yn helpu i wella ein profiad i ymwelwyr yn y dyfodol. Dim ond ychydig o funudau o’ch amser dylai’r arolwg ei gymryd ac mae eich atebion yn gwbl ddienw.
 

Rhagor o fanylion:

Mae'r arolwg yn cael ei gynnal yn unol â Chod Ymddygiad y Gymdeithas Ymchwil i'r Farchnad, felly gallwch fod yn dawel eich meddwl y bydd yr holl atebion yn cael eu cadw'n gwbl gyfrinachol.
Bydd eich ymatebion yn cael eu cofnodi mewn fformat cronnus. Caiff y data rydym yn ei gasglu ei ddefnyddio at ddibenion ymchwil yn unig. Mae gennych chi hawl i roi’r gorau i’r arolwg unrhyw bryd.


Datganiad Preifatrwydd: Bydd eich atebion i’r arolwg hwn yn aros yn ddienw ac ni fydd modd eu holrhain i chi. Mae’r arolwg yn cynnwys opsiynau testun agored, ac mae’n bwysig nodi y gallai’r sylwadau ysgrifenedig hyn ymddangos yn llawn neu’n rhannol a chael eu rhannu yn yr RSPB. Felly, peidiwch â chynnwys unrhyw wybodaeth bersonol a allai ddatgelu pwy ydych chi.

 

Riportio Pryderon/Problemau: Allwn ni ddim ymateb yn uniongyrchol i bryderon neu broblemau unigol sy’n codi yn yr arolwg hwn. Siaradwch ag aelod o staff yn y warchodfa berthnasol neu ewch i’n gwefan i gael gwybod sut mae cysylltu â ni.

 

Cymryd rhan yn y raffl: Mae opsiwn ar ddiwedd yr arolwg i gymryd rhan yn ein raffl chwarterol i ennill £100 o dalebau rhodd yr RSPB. Mae hyn yn gwbl ddewisol. Os byddwch chi’n cymryd rhan byddwn ni angen rhywfaint o fanylion cyswllt gennych chi. Mae’r Telerau ac Amodau yma.